Llywodraeth Cymru

Cadwch y dyddiad: Wythnos Hinsawdd Cymru 2024

Dydd Llun 11 - Dydd Gwener 15 Tachwedd

Thema: Creu dyfodol hinsawdd gwydn

Bydd Wythnos Hinsawdd Cymru yn ôl ym mis Tachwedd 2024, gan ddod â phobl o bob rhan o Gymru ynghyd i rannu gwersi a ddysgwyd, i ysgogi syniadau ac annog trafodaethau ar ddatrysiadau i dracio newid hinsawdd.

Eleni, bydd yr Wythnos yn cyd-redeg ag uwchgynhadledd byd eang COP29 ac yn dilyn cyhoeddi strategaeth gwytnwch hinsawdd newydd i Gymru (sydd wedi’i drefnu ar gyfer yr Hydref). Bydd sesiynau’n myfyrio ar y strategaeth newydd a sut y gallwn gydweithio i ddarparu cynlluniau gwytnwch hinsawdd traws-sector. Bydd yr Wythnos hefyd yn arddangos prosiectau a rhaglenni sy’n cael eu darparu i greu gwytnwch i newid hinsawdd o fewn ein cymunedau a’r amgylchedd naturiol ar draws Cymru.

Bydd y digwyddiad eleni’n cynnwys:

Cynhadledd rithiol 5 diwrnod - i’w chynnal rhwng 11 - 15 Tachwedd, bydd y gynhadledd rithiol yn cynnwys sesiynau ar effaith newid hinsawdd yn ein cymunedau, ar natur, amaethyddiaeth, diogelwch bwyd, busnes, cludiant, adeiladau a mwy, a’r cyfle y bydd gweithredu’n ei gynnig i’n hiechyd a llesiant, amgylchedd ac economi. Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal sesiwn, bydd manylion ar sut i wneud cais ar gael yma cyn bo hir. 

Cronfa Sgyrsiau Hinsawdd - yn dilyn llwyddiant digwyddiadau Sgyrsiau Hinsawdd 2023, bydd Llywodraeth Cymru’n ail agor y gronfa ymgysylltu cymunedol yn 2024. Nod y gronfa yw annog ceisiadau gan sefydliadau sydd â diddordeb mewn cynnal gweithdai gyda chymunedau ac aelodau o’r cyhoedd ar y testun gwytnwch a risg hinsawdd. Bydd rhagor o wybodaeth am y gronfa, sut i wneud cais, amodau cyllid a’r amserlen i gynnal digwyddiadau, ar gael yma yr Haf hwn. 

Digwyddiadau ymylol - os ydych yn cynnal digwyddiad i gyd-redeg ag Wythnos Hinsawdd Cymru, cysylltwch â ni ac fe wnawn gyhoeddi manylion am eich digwyddiad ar y calendr digwyddiadau ymylol Wythnos Hinsawdd Cymru. 

Bydd rhagor o wybodaeth ar gael am yr Wythnos cyn bo hir. Os hoffech rannu unrhyw syniadau ar gyfer yr Wythnos neu os oes gennych gwestiwn, cysylltwch â ni drwy e-bostio climatechange@gov.wales.

 

 

 

Hygyrchedd          Cwcis         Datganiad hawlfraint       Polisi preifatrwydd gwefan       Telerau ac amodau

                                                                                               Cysylltwch â ni:​ climatechange@gov.wales